
Mae taith glodwiw Women in Rock yn dod i Theatr y Grand Abertawe am noson yn unig, ac mae'n gyngerdd roc heb ei hail. Mae'n dathlu cantorion roc cryf benywaidd, gan gynnwys Blondie, Suzi Q, Janis Joplin, Heart, Joan Jett, Pink, Kiki Dee, Bonnie Tyler, Cher a llawer mwy!
Mae'r perfformiad gwefreiddiol dros 2 awr yn cynnwys cast o gerddorion a chantorion o'r radd flaenaf, a byddwch yn canu, yn dawnsio ac yn mwynhau un gân boblogaidd ar ôl y llall o'r cychwyn. Dyma sioe roc unigryw gyda newidiadau gwisgoedd cyffrous, lleisiau gwefreiddiol, harmonïau trawiadol a rhyngweithio â'r gynulleidfa; fyddwch chi ddim yn cael eich siomi.
Ymunwch â ni am ganeuon eiconig, gan gynnwys Piece Of My Heart, Black Velvet, You Oughta Know a Left Outside Alone wrth i ni arddangos doniau'r menywod hyn. Bydd doniau lleisiol cast Women in Rock yn eich syfrdanu a byddwch yn teimlo'n barod i wynebu'r byd!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 17 Hydref 2025