1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Ben Portsmouth: This is Elvis

Ben Portsmouth: This is Elvis

Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae Ben Portsmouth yn cyflwyno'i deyrnged syfrdanol i'r Brenin Roc a Rôl!

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y sioe Elvis orau yn y byd, wedi'i pherfformio gan ddyn a werthodd bob tocyn ar gyfer ei berfformiadau ar yr un llwyfannau y gwnaeth Elvis berfformio arnynt yn Vegas a'r Adelphi Theatre yn y West End.

Llwyddodd Ben i wneud hanes yn 2012 drwy dorri pob record i ddod y person Ewropeaidd cyntaf i gael ei enwi fel yr Artist Teyrnged Elvis Gorau yn y Byd gan 'Elvis Presley Enterprises' ym Memphis.

Ers hynny, mae Ben wedi perfformio ar 'The Late Show' gyda David Letterman, ac mae ar daith fyd-eang ar hyn o bryd gyda'i gynhyrchiad gwych, 'This is Elvis'.

Gan ddathlu bywyd y siewmon enwog, byddwch yn mynd ar daith yn ôl mewn amser drwy wrando ar rai o ganeuon mwyaf poblogaidd Elvis o bob cyfnod, gan gynnwys y 1950au, ei ddychweliad enwog yn '68, a ffefryn Ben, ei gyngherddau yn Vegas yn y 1970au. 

Gyda'i swyn a'i garisma, mae Ben yn siewmon go iawn!  Mae'n parhau i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda'i bresenoldeb ar y llwyfan, gyda chefnogwyr ar draws y byd yn dweud mai ef yw'r person tebycaf erioed i'r Brenin! 

Dewch i ymuno â ni am noson wych gyda Ben a'r band!

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 135 munud Pris £33.00 Rhybudd Nid yw’r sioe hon yn addas i bobl y mae’n hawdd eu digio; gall gynnwys hiwmor i oedolion

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025
    Amser 7:30PM Prisiau £33.00 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu