Cyflwynir gan Sweeney Entertainments ac LP Music
Mae cynhyrchiad cyffrous newydd Think Floyd ar gyfer 2026 yn cynnwys The Dark Side of the Moon a Wish You Were Here - dau o'r albymau mwyaf eiconig a dylanwadol a fu erioed. Caiff y ddau eu perfformio yn eu cyfanrwydd, ochr yn ochr â detholiad o draciau adnabyddus Pink Floyd, o gyfnod Syd Barrett i The Division Bell.
Mae Think Floyd yn fwy nag act deyrnged yn unig - maent yn adnabyddus am eu dawn gerddorol ragorol, eu sain ddiledryw a'u sylw tra manwl i fanylion. Mae perfformiadau brwdfrydig a manwl gywir y band yn driw i hanfod Pink Floyd, ac mae sioe laser drawiadol, gyfareddol sy'n gefndir i'r perfformiad yn sicrhau bod y gyngerdd yn brofiad clyweledol go iawn.
Mae hyn yn oed Nick Mason, un o aelodau Pink Floyd, wedi'u canmol gan ddweud bod Think Floyd yn "wych" a chan grybwyll mewn cyfweliad ag LBC eu bod yn "well na ni." Gyda'r fath ganmoliaeth ac ymroddiad i'r grefft, mae taith 2026 Think Floyd yn addo bod yn sioe y dylai selogion rhonc ac edmygwyr newydd ei phrofi.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 130 munud Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 13 Mawrth 2026


