1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
The Shires

The Shires

Dydd Sadwrn, 7 Medi 2024 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae deuawd canu gwlad mwyaf y DU, Ben Earle a Crissie Rhodes, yn teithio ar draws y DU ar gyfer eu taith Two of Us - Acoustic Duo Tour 2024, gan berfformio'u holl ganeuon enwocaf. 

Mae cyflawniadau The Shires yn dweud y cyfan: 3 albwm yn olynol a gyrhaeddodd y 3 uchaf yn siartiau'r DU, pedwar albwm canu gwlad a gyrhaeddodd rif 1 yn siartiau'r DU, gwrandawyd ar eu cerddoriaeth dros 100 miliwn o weithiau, dwy record aur ardystiedig, a sawl sioe y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer, gan gynnwys yn lleoliad mawreddog Neuadd Frenhinol Albert. 

Daeth The Shires yn boblogaidd yn 2014 gyda'u sengl, Nashville Grey Skies, cân chwareus am Brydain a'i ddiffyg canu gwlad. Ac maen nhw wedi helpu i fynd i'r afael â hyn, gan ddechrau gyda'u halbwm cyntaf yn 2015, Brave, sef yr albwm cyntaf erioed gan artist canu gwlad i gyrraedd y 10 uchaf. Mae'r llwyddiant hynny wedi parhau gydag olyniaeth o albymau poblogaidd: My Universe yn 2016, Accidentally On Purpose yn 2018, Good Years yn 2020 a 10 Year Plan yn 2022. 

Mae eu dilysrwydd wedi'u gwneud nhw'n boblogaidd iawn ymhlith cefnogwyr cerddoriaeth Nashville, gan arwain at ddwy wobr CMA, ac mae eu huchafbwyntiau teithio yn cynnwys yr Ŵyl C2C a pherfformio fel gwesteion ar gyfer Carrie Underwood, Little Big Town, The Corrs a mwy.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 130 munud Pris £38.00

Choose a date

Poster for Sister Act

Sister Act

Dydd Llun, 23 Medi 2024 i Dydd Sadwrn, 28 Medi 2024 Archebwch nawr
Poster for Ed Byrne: Tragedy Plus Time

Ed Byrne: Tragedy Plus Time

Dydd Mercher, 9 Hydref 2024 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu