1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
The James Brown Experience

The James Brown Experience

Dydd Mercher, 22 Hydref 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Teyrnged i'r Brenin Ffync.

Dathlwch yr eicon miwsig yr enaid gwreiddiol mewn profiad cyngerdd cyfareddol sy'n mynd y tu hwnt i ddynwared ac yn cyfleu hanfod etifeddiaeth ddihafal y 'Godfather' gyda The James Brown Experience. Ymunwch yn y symud wrth i chi fwynhau caneuon dawns cyffrous, baledi emosiynol a chlasuron diamser sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion a gweithredwyr i ddawnsio i ganeuon fel Say It Loud!

Mae The James Brown Experience yn cyfleu ysbryd bywyd James Brown fel gweithredwr Hawliau Sifil, fel eicon cerddoriaeth ffync ac enaid, fel arweinydd busnes ac fel 'dyn mwyaf gweithgar y byd adloniant'. Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys cast llawn a 'The New Generals', sef cerddorfa ffync â 9 aelod, y mae ei gerddorion wedi bod ar daith gyda phobl fel Jamiroquai, Mark Ronson, Amy Winehouse a Martha Reeves. Mae'r band yn dod â phŵer a churiad heb ei ail yn y diwydiant.

Mae The James Brown Experience yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith ac yn archwilio bywyd ac enaid brenin y byd ffync gan ddefnyddio'i eiriau ei hun. Mae'r gerddoriaeth wych yn y sioe hon yn cynnwys yr holl ganeuon poblogaidd felI Feel Good, Man's World, Get Up Offa That Thing, Sex Machine a llawer mwy.

Nid yw'r sioe hon wedi'i chymeradwyo gan Ystad James Brown na The James Brown Family Foundation ac nid yw'n gysylltiedig â nhw.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris ��25.50 - £32.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mercher, 22 Hydref 2025
    Amser 7:00PM Prisiau ��25.50 - £32.50 Archebwch nawr

Dewch o hyd i ni ac archebwch

Prynu tocynnau ar gyfer sioeau neu logi un o'n lleoedd
Prynu tocynnau ar gyfer sioeau neu logi un o'n lleoedd.
Rydym yng nghanol Abertawe!
Gweld rhagor
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu