
Mae The Chicago Blues Brothers yn ôl, ac maen nhw'n barod i berfformio ar y llwyfan!
Mae'r gyngerdd fyw hon sy'n dathlu 45 mlynedd o etifeddiaeth chwedlonol y Blues Brothers yn addo noson llawn egni cerddoriaeth blues, caneuon canu gwlad poblogaidd a rhai caneuon annisgwyl bythgofiadwy ar hyd y ffordd.
O ganeuon eiconig o ffilmThe Blues Brothers i rai o'r anthemau canu gwlad gorau erioed, dyma sioe nad ydych chi erioed wedi'i gweld o'r blaen. Bydd y cyfan yn cael ei gyflwyno gyda rhodres digamsyniol The Chicago Blues Brothers a fydd yn gwneud i chi fod eisiau canu, clapio a dawnsio yn yr eiliau.
Fel y gwelwyd yn Theatrau Adelphi a Savoy yn West End Llundain, mae'r cynhyrchiad arobryn hwn yn addo egni diddiwedd, dawn arddangos ysblennydd a llawer o hwyl.
Felly, cydiwch yn eich het a'ch esgidiau a byddwch yn barod am sioe syfrdanol llawn egni a fydd yn llenwi'ch enaid. Dyma sioe ddifraw ac eofn na fyddwch yn ei hanghofio!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £33.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 27 Chwefror 2026