Cyfres jazz a gyfansoddwyd gan Dave Cottle
Pumawd Dave Cottle a'r adroddwr Griff Harries
Dathlu Pen-blwydd Richard Burton yn 100 oed
A Christmas Story a ysgrifennwyd gan Richard Burton ym 1965
Ar noswyl Nadolig, mae Richard, sy'n wyth oed, yn byw gyda'i chwaer hŷn ym Mhort Talbot. Mae ei ewythr Mad Dan yn mynd ag ef i ganu gyda'r glowyr o gwmpas y goelcerth oherwydd bod ei chwaer lan lofft yn ddifrifol sâl... neu ydyw hi? Efallai y bydd Richard ifanc yn cael anrheg annisgwyl y Nadolig hwn!
Ysgrifennwyd y stori gan Burton gydag 'A Child's Christmas in Wales' gan Dylan Thomas mewn cof, ac mae'n edrych yn ôl ar noswyl Nadolig benodol yn ystod ei blentyndod ym Mhort Talbot.
Mae'r cerddor o Abertawe Dave Cottle wedi cyfansoddi cyfres jazz i gyd-fynd â'r stori. Dave yw pianydd rheolaidd Clwb Jazz Abertawe ac mae wedi trefnu'r digwyddiadau wythnosol yn y clwb ers bron 30 mlynedd. Mae Dave wedi perfformio fel cyfeilydd i gannoedd o artistiaid a bandiau jazz rhyngwladol yn ystod ei yrfa hir mewn cerddoriaeth. Gellir ei weld yn aml yn perfformio gyda'r band rheolaidd yn nosweithiau jazz wythnosol Ronnie Scotts. Sefydlodd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn 2014.
Fel cerddor, mae Griff Harries (adroddwr) wedi teithio ar draws y DU, Gorllewin Ewrop ac arfordir dwyreiniol Gogledd America yn ystod ei yrfa. Ef yw sylfaenydd/cyfarwyddwr Cerddorfa Siambr Cymru, a bu'n goruchwylio pantomeimiau Theatr y Grand Abertawe am dros ddegawd. Ond, mae'n fwyaf adnabyddus am ei flynyddoedd niferus fel darlledwr gyda Swansea Sound, yn enwedig ei waith yn cyflwyno The Late Show. Gallwch ei glywed yn siarad Cymraeg a Saesneg ar Welsh Coast Radio. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Griff yn falch o fod yn aelod o Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru am ei wasanaethau i gerddoriaeth a'r celfyddydau.
Dave Cottle (piano/trymped) Griff Harries (adroddwr)
Sarah Meek (lleisiau) Dan Newberry (sacsoffon) Alun Vaughan (bas)
a Paul Smith (drymiau)
Perfformir y gyfres jazz yn ystod y rhan gyntaf, ac yn dilyn yr egwyl bydd y pumawd a'r adroddwr yn cyflwyno stori Nadoligaidd gydag elfennau jazz.
Gwybodaeth bwysig
Amser 8:00PM Pris £22.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2025


