1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Su Pollard - Still Fully Charged

Su Pollard - Still Fully Charged

Dydd Mercher, 16 Hydref 2024 Main Auditorium Archebwch nawr

O diar! Mae 50 mlynedd wedi mynd heibio....

Dewch i gwrdd â Su a'i chyfeilydd yn fyw ar y llwyfan i ddathlu ei 50 mlynedd yn y byd adloniant gyda noson o chwerthin, caneuon bendigedig a straeon gwych!

Ers 50 mlynedd, mae'r enwog Su Pollard wedi boddio cynulleidfaoedd, gan serennu yn rhai o raglenni teledu mwyaf adnabyddus y wlad ac ar lwyfannau ledled y byd mewn rhai o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd.

O ddechreuadau cyffredin ar y sioe deledu Opportunity Knocks (lle daeth yn ail i gi a oedd yn canu), drwy ei blynyddoedd fel morwyn cabanau Maplin's yn y gyfres deledu lwyddiannus ar y BBC, Hi-de-Hi!, i'w rolau yn y West End a'r rhai teithiol cenedlaethol yn Godspell, Annie a'r Little Shop of Horrors, a'i hymddangosiad teledu mwyaf diweddar ar Celebrity Masterchef, Gimme Gimme Gimme a Would I Lie To You?- mae wedi bod yn hanner canrif llawn cyffro ac adloniant pur. A dyma'r dechrau yn unig!

Mae sioe un fenyw newydd Su, Still Fully Charged, yn dod â'r trysor cenedlaethol wyneb yn wyneb â'r cyhoedd sy'n ei hedmygu i ddathlu'r cymeriadau rhyfeddol y mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i'w chwarae, y cyfeillion a'r cydweithwyr anhygoel y cyfarfu â hwy ar hyd y ffordd, a'r amrywiaeth syfrdanol o gerddoriaeth y mae hi wedi'i pherfformio a'i recordio drwy gydol ei gyrfa ddisglair.

Felly ymunwch â Su am noson o straeon hynod ddoniol o 50 mlynedd yn y  byd adloniant, gyda chaneuon o'r sioeau, cyfrinachau cefn llwyfan o'i dyddiaduron ac efallai ymddangosiad gan un neu ddau gymeriad adnabyddus!

Mae Su (enillydd Gwobr y Pantomeimiau 2023 am Gyflawniad Oes a Gwobr Pen ôl y Flwyddyn, 1988) yng nghwmni ei chyfeilydd a'i chyfarwyddwr cerddorol, Steven Edis, yma'n fyw ar y llwyfan i ddangos bod teitl ei sioe Still fully Chargedyn berthnasol iddi o hyd a'i bod yn barod i berfformio!


Cyfarwyddir gan Paul Boyd

Cyfarwyddwr Cerdd - Steve Edis

Ysgrifennwyd gan Paul Boyd a Su Pollard

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 120 munud Pris £28.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mercher, 16 Hydref 2024
    Amser 7:30PM Prisiau £28.50 Archebwch nawr
Poster for Colin Hoult: Colin

Colin Hoult: Colin

Dydd Gwener, 1 Tachwedd 2024 Archebwch nawr
Poster for Jack and the Beanstalk

Jack and the Beanstalk

Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr 2024 i Dydd Sul, 5 Ionawr 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu