1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Rob Lamberti Presents Perfectly George

Rob Lamberti Presents Perfectly George

Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae'r sioe hon, gyda llais anhygoel Rob Lamberti, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd o gwmpas y wlad ac Ewrop gan beri iddynt godi ar eu traed. Mae'n sioe ddynamig sydd, mewn ffordd ystyriol a phriodol, yn dathlu gyrfa un o berfformwyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth.

Mae'r sioe sy'n mynd o gyfnod Wham! i oes amrywiol gyrfa lwyddiannus iawn George fel unigolyn ac sy'n cynnwys caneuon ysgubol diamser fel 'Careless Whisper', 'Faith', 'I'm Your Man', 'Club Tropicana' a llawer mwy, yn adrodd hanes George Michael yn y repertoire eang o ganeuon a'i gwnaeth yn eicon i gynifer o bobl.

Daeth Rob Lamberti, y George perffaith, diamod, yn ffefryn gan gefnogwyr ar draws gyfryngau cymdeithasol. Yn syml, fel y dywedwyd gan un o flogwyr pennaf byd y theatr, West End Wilma, 'mae'n sioe wych, yn ddim llai na pherffeithrwydd, ac yn ffordd hudol o dalu teyrnged i'r diweddar a'r amryddawn Mr George Michael.' Yn yr un modd dywedodd y Southern Daily Echo fod y sioe wedi 'ysgogi'r gynulleidfa gyfan, o seddi'r cylch i'r balconi, i godi ar eu traed i ddawnsio.'

Mae Rob Lamberti yn seren yn ei rinwedd ei hun ar ôl ymddangos yn rhaglen 'Even Better Than the Real Thing' y BBC yn 2017. Mae ganddo lais sy'n deilwng i berfformio catalog rhyfeddol o ganeuon ysgubol George, ac mae wedi mynd ymlaen i sefydlu gyrfa lwyddiannus yn talu teyrnged i'w arwr. Ymddangosodd Rob hefyd yn ffilm Steve Coogan, 'Greed'.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £34.50 - £42.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £34.50 - £42.50 Archebwch nawr
Poster for Man In The Mirror

Man In The Mirror

Dydd Iau, 13 Chwefror 2025 Archebwch nawr
Poster for Lost In Music

Lost In Music

Dydd Gwener, 21 Chwefror 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu