O Little Town of Aberystwyth
Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr 2024 Arts Wing Pob tocyn wedi'i werthuDewch i ymgolli yn yr addasiad arbennig hwn o nofel Malcolm Pryce. Mewn ale frwnt yn yr ardal Tsieineaidd, mae Siôn Corn un o'r siopau adrannol yn gorwedd yn farw yn ei waed ei hun - dyma Aberystwyth adeg y Nadolig.
Mae Brenhines Denmarc yn penodi'r unig dditectif preifat yng Ngheredigion, Louie Knight, i helpu. O fewn pum niwrnod mae'n rhaid i Louie, gyda chymorth ei bartner ffyddlon Calamity, ddatrys y dirgelwch. Fel arall, ni fydd Nadolig nac anrhegion ar gyfer y plant, na chyngerdd ar gyfer y pengwiniaid sy'n canu carolau....
Yn dilyn llwyddiant 'Aberystwyth Mon Amour' yn 2016, mae 'Lighthouse Theatre' yn dychwelyd gyda'r perfformiad llwyfan cyntaf o nofel noir Gymreig arall gan Malcolm Pryce.
Mae'r perfformiad hwn a gyfarwyddir gan Llinos Daniel, gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Kieran Bailey yn gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfannau Celfyddydau Pontardawe ac Aberystwyth, gyda chymorth Tŷ Cerdd a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Gwybodaeth bwysig
Amser 2:30PM, 7:30PM Hyd 120 munud Ar gyfer grŵp oedran 12+ Pris £13.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr 2024
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr 2024