
Mae Theatr y Grand Abertawe'n falch iawn o gyflwyno noson i chi yng nghwmni un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd - Nigel Owens MBE. Ar ôl ymddangos ar lwyfannau ledled y DU, mae Nigel yn ymweld ag Abertawe i rannu nifer o straeon o'i gyfnod ar y cae ac oddi arno.
Nigel yw un o gymeriadau mwyaf diddorol a doniol yr Undeb Rygbi, ac mae ganddo gefnogwyr ac edmygwyr rhyngwladol sy'n dwlu ar ei swyn, ei ffraethineb a'i degwch.
Nigel yw'r unig ddyfarnwr i gael ei benodi ar gyfer tair rownd derfynol Cwpan Heineken yn olynol, a bydd yn cael ei edmygu ac yn enwog am byth am ei synnwyr digrifwch sych wrth ymdrin â chwaraewyr yn ystod y gemau.
Ni ddylai unrhyw gefnogwr chwaraeon golli'r digwyddiad hwn wrth iddo adrodd straeon o'i fywyd a'i yrfa.
Bydd hefyd gyfle am sesiwn holi ac ateb fyw yn ail hanner y noson, lle bydd cyfle i chi ofyn unrhyw beth i Nigel... o fewn rheswm!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £26.00 - £45.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 24 Ebrill 2026