Cwsmeriaid a Chlwb Theatr yn helpu i adfer Theatr y Grand Abertawe
Mae llenni a phelmet newydd wedi'u gosod ar y prif lwyfan.
Diolch i gefnogaeth ein cwsmeriaid a'r Clwb Theatr, mae Theatr y Grand Abertawe wedi gallu gwneud gwaith ailwampio mawr ei angen yn yr awditoriwm. Mae llenni a phelmet newydd wedi'u gosod ar y prif lwyfan, ynghyd â llenni newydd yn y blychau ar bob ochr i'r llwyfan a'r bwth sain y tu ôl i seddi'r cylch.
J&C Joel sy'n gwneud y gwaith ac fe'i hariennir gan Gronfa Adfer y theatr a chyfraniad hael gan bwyllgor y Clwb Theatr.