1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Mae llenni a phelmet newydd wedi'u gosod ar y prif lwyfan

Diolch i gefnogaeth ein cwsmeriaid a'r Clwb Theatr, mae Theatr y Grand Abertawe wedi gallu gwneud gwaith ailwampio mawr ei angen yn yr awditoriwm. Mae llenni a phelmet newydd wedi'u gosod ar y prif lwyfan, ynghyd â llenni newydd yn y blychau ar bob ochr i'r llwyfan a'r bwth sain y tu ôl i seddi'r cylch.

J&C Joel sy'n gwneud y gwaith ac fe'i hariennir gan Gronfa Adfer y theatr a chyfraniad hael gan bwyllgor y Clwb Theatr. Ar ôl 49 mlynedd o gefnogi'r Grand, chwalwyd y Clwb Theatr yn 2019 ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu hymdrechion dros yr amser hwnnw ac am hyn, eu rhodd olaf. Dywedodd Lindsay Sleeman, cyn-Gadeirydd y Clwb Theatr,

"Hyd at 2018, roedd y Clwb Theatr wedi bodoli ers 49 mlynedd ac, yn ystod yr amser hwn, cododd filoedd o bunnoedd i gefnogi gwelliannau yn y Theatr, gan gynnwys cyllid tuag at eitemau dodrefnu newydd yr awditoriwm, ac yn hanesyddol, £10,000 tuag at brynu'r siandelïer godidog sy'n hongian yn yr awditoriwm. 

Fel Clwb Theatr rydym yn frwd iawn am y theatr, ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu chwarae rôl i godi arian yn llwyddiannus er mwyn galluogi'r theatr i brynu pethau, rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib fel arall.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb,

"Mae Theatr y Grand Abertawe yn rhan mor eiconig o ddiwylliant y ddinas ac mae'n wych gweld gwelliannau fel hyn yn cael eu cefnogi gan ei ymwelwyr drwy'r Gronfa Adfer. Mae'r eitemau dodrefnu newydd wir yn ychwanegu at ei hurddas a'i swyn Fictoraidd."

Photo

Mae gwaith arall sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn cynnwys coridor ar ei newydd wedd rhwng dwy fynedfa'r Cylch Mawr, a gweddnewidiad i flaen y theatr fel bydd y cyfan yn edrych yn lân ac yn loyw yn fuan iawn.

Mae'r theatr hefyd yn trafod ag arbenigwr seddau i gynyddu hygyrchedd o fewn yr awditoriwm a gwneud profiad ein cwsmeriaid yn fwy cyfforddus. Bydd hyn yn brosiect tymor hwy a gobeithir y caiff ei gwblhau yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu