Ydych chi erioed wedi dyfalu beth oedd ar feddwl eich athro?
Rhowch gyfle i Mrs Smith esbonio!
Roedd Mrs Smith yn athrawes gyffredin mewn ysgol gyffredin nes iddi ennill sylw ar Facebook a dod yn ddigrifwr byw, a hynny ar ddamwain. Gwnaeth ei ffraethineb a'i sylwadau am fywyd ysgol beunyddiol, gwleidyddiaeth, sanau, rhegi, sgîl-effeithiau lleuad lawn a mwy ysbrydoli'r sioe Mrs Smith - See Me, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2023, gan werthu pob tocyn.
Plentyn 1. "Mae gen i 20 o danysgrifwyr i'm sianel YouTube."
Plentyn 2. "Does dim ots ... mae gan fy nghefnder 36 o danysgrifwyr ar Twitch."
Plentyn 3. "Gwelwyd dawns fy chwaer ar TikTok bron 50 o weithiau."
Mae Mrs Smith yn ysgwyd ei phen ac yn cerdded ymaith. Ai dyna'r cwbl??? Does dim syniad gennych chi, meddai hi rhwng ei dannedd. Dim syniad o gwbl.
Mae Mrs Smith o fewn 10 i gyrraedd 73,000 o ddilynwyr. Byddai hynny'n dân ar groen disgyblion Blwyddyn 6!
Sylwer na chaniateir unrhyw ffotograffau o'r artist er mwyn diogelu ei hanhysbysrwydd.
Gwybodaeth bwysig
Amser 8:00PM Hyd 130 munud Ar gyfer grŵp oedran 18+ Pris £20.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 4 Hydref 2024