Gyda Vicky Entwistle
Mae Living The Life Of Riley yn stori dwymgalon, dorcalonnus a doniol tu hwnt am deulu sy'n ceisio dod o hyd i'w ffordd drwy stranciau blynyddoedd yr arddegau, awtistiaeth a byw gyda mam-gu.
Roedd Joanne Riley bob amser yn amau bod rhywbeth yn wahanol am ei mab, Jackson. Doedd 'e ddim yn rhyngweithio â phlant eraill, roedd yn gofyn llawer a phrin roedd 'e'n siarad. Yna daeth y diagnosis - roedd gan Jackson awtistiaeth.
Ceisiodd pawb gyd-dynnu ond pan symudodd Mam-gu i mewn i 'helpu mas', aeth pethau o chwith yn gyflym iawn!
Dyma farn rhai aelodau o'r gynulleidfa.
'Stori wych sy'n debyg i fywyd go iawn, roeddwn i'n crio ac yn chwerthin... byddwn i'n ei hargymell yn fawr.'
'Stori am dreialon a thrallodion bywyd teuluol sy'n trafod materion difrifol a digonedd o chwerthin. Cast arbennig, sioe wych.'
'Er ei bod yn drist iawn ar brydiau, mae'n gwneud i chi sylweddoli dydych chi ddim ar eich pen eich hun.'
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £28.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 24 Gorffenaf 2025