
Dewch i gael blas byw ar ddylanwad byd-eang K-Pop!
O anthemau sy'n syfrdanu tyrfaoedd mewn stadia i goreograffi o'r radd flaenaf, mae K-Pop All Stars yn dathlu'r ffenomen fyd-eang sy'n ailddiffinio diwylliant pop. Mae'r sioe deyrnged egnïol hon yn dod â chyffro llwyfannau Seoul yn fyw drwy ganeuon cyfredol mwyaf poblogaidd K-Pop gan BlackPink, NewJeans, Katseye a BTS a pherfformiadau ffrwydrol wedi'u hysbrydoli gan y ffilm boblogaidd K-Pop Demon Hunters.
Bydd y ffyn golau'n disgleirio a'r dorf yn symud ar y cyd wrth i'r profiad ymdrochol byw hwn gyflwyno cerddoriaeth ac egni trydanol K-Pop All Stars!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 120 munud Pris £31.00 - £37.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 14 Mai 2026