1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
John Robb

John Robb

Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2026 Arts Wing Archebwch nawr

Mae John Robb yn ŵr talentog.

Yn ogystal â bod yn adnabyddus ar y teledu mae hefyd yn awdur poblogaidd, yn gerddor, yn newyddiadurwr, yn feistr ar y wefan gerddoriaeth Louder Than War, yn guradur y gwyliau byw Louder Than Words a Louder Than War ac yn frwd dros fod yn ecogyfeillgar. Mae hefyd yn gyflwynydd teledu a radio ac roedd yn arfer bod yn aelod o fand pync-roc clodwiw The Membranes.

Mae John Robb yn gallu gwneud y cyfan - a bydd ei daith sydd ar ddod yn 2026 yn trafod hyn i gyd yn ogystal â'i anturiaethau yn y byd pync-roc, y gellir darllen amdanynt yn ei lyfr sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi fel ffilm.

Mae ei lyfrau diweddar, 'Live Forever - the Rise, Fall and Resurrection of Oasis' a 'The Art Of Darkness - the History of Goth' wedi cael clod ar draws y byd, yn ogystal â 'The Stone Roses and the Resurrection of British Pop'. Cyhoeddwyd 'Manifesto', a ysgrifennwyd ar y cyd â Dale Vince, yn 2022 ac aeth yn syth i frig y siartiau llyfrau.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar y cynllun addysg arloesol Green Britain Academy a chasgliad o ddillad di-garbon o'r enw Dark Forest yn ei amser rhydd rhwng ei daith ar draws y DU ac Ewrop.

Magwyd John Robb yn Blackpool (y mae bellach yn llysgennad ar gyfer y dref) cyn i gerddoriaeth pync-roc achub ei fywyd. Yn dilyn y cyfnod pync-roc, ffurfiodd y band Membranes - band hynod ddylanwadol y mae eu halbymau clodwiw diweddar yn parhau i fwrw ymlaen â defnyddio rhythmau a melodïau atodol.

Roedd yn un o awduron arweiniol ffanlyfrau pync-roc y DU gyda Rox cyn mynd ymlaen i ysgrifennu ar gyfer y wasg roc gyda Sounds yn yr 80au. Ef oedd y person cyntaf i gyfweld â Nirvana a bathu'r ymadrodd 'Britpop', ac roedd yn allweddol wrth ddogfennu'r byd 'Madchester' gyda'i ysgrifennu. Mae ei wefan louderthanwar.com ymysg y 3 gwefan cerddoriaeth a diwylliant fwyaf poblogaidd yn y DU ar hyn o bryd. Mae'r wefan ar flaen y gad o ran hyrwyddo talent newydd ac oherwydd y wefan bu bron i John ryddhau sengl cyntaf Fontaines D.C. a rhoi'r arolygiad cyntaf erioed i Charli XCX. 

Gwybodaeth bwysig

Amser 8:00PM Hyd 110 munud Pris £14.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2026
    Amser 8:00PM Prisiau £14.50 Archebwch nawr
Preview image coming soon
Poster for Rumours of Fleetwood Mac

Rumours of Fleetwood Mac

Dydd Mercher, 24 Mehefin 2026 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu