Q The Music Show - James Bond Concert Spectacular
Dydd Sadwrn, 19 Medi 2026 Main Auditorium Archebwch nawrQ The Music - James Bond Concert Spectacular yw sioe deyrnged glodwiw orau'r byd i gerddoriaeth James Bond.
Mae Q The Music, sydd wedi bod yn cyflwyno'r gyngerdd Bond wreiddiol ac arloesol hon ers dros 20 mlynedd, yn adnabyddus am eu perfformiadau emosiynol a llawn egni yn ogystal â'u sgiliau cerddorol a'u dawn ragorol. Yn sicr, mae pob clwb cefnogwyr ar draws y byd yn adnabod perfformiadau'r grŵp o'r caneuon fel y rhai gorau ers y rhai gwreiddiol.
Yn ogystal â chaneuon thema, mae'r sioe hefyd yn talu teyrnged i gerddoriaeth arall o'r gyfres.
Mae Q The Music wedi cael canmoliaeth nodedig gan sêr dylanwadol iawn y byd Bond, gan gynnwys:
David Arnold, cyfansoddwr pump o'r ffilmiau Bond, "Maen nhw'n arbennig o dda"
Yr actor George Lazenby a oedd wedi chwarae rhan James Bond, "Byddai John Barry wedi bod yn falch iawn"
Swyddfa Syr Roger Moore (yn dilyn ei wasanaeth coffa swyddogol yn Pinewood Studios): "Gwnaethant helpu i wneud diwrnod ardderchog yn ddiwrnod rhyfeddol."
Steven Saltzman (mab y cynhyrchydd Bond enwog Harry Saltzman): "Byddai fy nhad wedi bod yn falch iawn"
Mae hyd yn oed papur newydd cenedlaethol The Times wedi canmol eu perfformiad mewn adolygiad 4 seren yn dilyn eu perfformiad cyntaf ar y West End: "Dehongliad rhagorol o'r gerddoriaeth hon. Hollol syfrdanol."
Mae'r band bellach yn gysylltiedig â'r digwyddiadau Bond gorau yn y byd, gan berfformio mewn digwyddiad gyda George Lazenby yn 2019 i ddathlu 50 mlynedd ers y ffilm On Her Majesty's Secret Service, a gynhaliwyd yn Piz Gloria yn Alpau'r Swistir. Yn 2017 cawsant yr anrhydedd o ddarparu'r gerddoriaeth ar gyfer digwyddiad coffa swyddogol Syr Roger Moore yn Pinewood Studios. Maent wedi perfformio ar y West End yn Llundain sawl tro ac wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer eu perfformiadau yn rhai o'r lleoliadau mwyaf nodedig, lle maent wedi cael clod mawr gan y beirniaid.
Mae'r sioe yn cynnwys yr holl ganeuon bond fel Goldfinger, Diamonds Are Forever, Live and Let Die a Nobody Does It Better - wedi'u perfformio gan gerddorion sy'n rhan o gerddorfeydd, sesiynau a sioeau gorau'r DU. Caroline Bliss, a oedd wedi chwarae rhan Moneypenny yn The Living Daylights a Licence To Kill, yw cyflwynydd y gyngerdd, a bydd yn rhannu ambell hanesyn am ei hamser yn gweithio ar y gyfres enwog hon.
Gyda lleisiau syfrdanol, arweinydd llawn gwybodaeth a sioe llawn caneuon eiconig wedi'u perfformio i safon uchel iawn, rydych yn sicr o gael noson o safon. Dyma'r unig gyngerdd James Bond a grëwyd ar gyfer selogion Bond, gan selogion Bond sy'n deall y gerddoriaeth yn well nag unrhyw un arall, felly peidiwch â'i cholli.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 160 munud Pris £35.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 19 Medi 2026


