1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Iphigenia Yn Sblot

Iphigenia Yn Sblot

Dydd Mawrth, 10 Medi 2024 i Dydd Mercher, 11 Medi 2024 Arts Wing Gweld dyddiadau ac archebu

Pwerus. Pwysig. Cyfareddol.

Profwch y clasur cyfoes Cymreig gyda chynhyrchiad newydd o bwys.

Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu'r byd, gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn fyd-eang.

Nawr yn 2024, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd, yn fwy perthnasol ac ystyrlon nag erioed. Daw cynhyrchiad pwerus Alice Eklund o'r cyfieithiad Cymraeg newydd sbon â'r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto, gyda pherfformiad grymus gan Seren Hamilton. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae'r ddrama un fenyw yma'n ysgytwad holl bwysig.

Perfformir yn Gymraeg. Mae capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.

Yn baglu lawr Stryd Clifton yn feddw am 11.30am... osgoi merch fel Effie fydd y rhan fwyaf o bobl. Chi'n meddwl eich bod yn ei 'nabod hi, ond does dim clem gennych chi. Mae bywyd Effie'n gorwynt beunyddiol o ddiod, cyffuriau a drama, a'r pen mawr y bore nesaf yn waeth nag angau. Tan un noson, mae cyfle'n dod iddi fod yn fwy na hyn

Pum peth y dylech wybod am Iphigenia yn Sblot:

Mae teitlIphigenia yn Sblot yn cyfeirio at fytholeg Roegaidd

YsbrydolwydIphigenia yn Sblot gan y cymeriad Groegaidd, Iphigenia, a gyniwyd fel aberth i ddyhuddo duwies, ac er lles y Groegiaid. Mae drama Gary Owen yn cymryd aberth fel thema ac yn ei osod yn ein cymdeithas gyfoes.

MaeIphigenia yn Sblot yn gyfieithiad Cymraeg o ddrama glodfawr Gary Owen

Yn dilyn perfformiadau cyntaf yn y Sherman yn 2015, aeth Iphigenia in Splott ymlaen i'w pherfformio'n rhyngwladol mewn lleoliadau sy'n cynnwys Gŵyl Ymylol Caeredin, National Theatre Llundain, Theatrau 59E59 yn Efrog Newydd, Y Schaübhne ym Merlin a Gŵyl Avignon. Yn fwyaf diweddar fe adfywiwyd y ddrama yn y Lyric Hammersmith, Llundain. Yn sgil ei llwyddiant, fe ymddangosodd y ddrama ar restr y Guardian o'r "50 Sioe Theatr Orau o'r 21ain Ganrif".

Mae'r ddrama'n defnyddio'r math o Gymraeg y byddwch yn debygol o'i glywed yng Nghaerdydd bob dydd

Mae'r cyfieithiad Cymraeg newydd yma o Iphigenia yn Sblot yn cyfleu cymeriad Effie drwy'r ffordd y mae hi'n siarad. Dywed y cyfarwyddwr, Alice Eklund, "mae'n teimlo fel y Gymraeg glywais wrth dyfu i fyny, y math o Gymraeg roeddwn i'n ei rhannu gyda ffrindiau yn yr ysgol, y Gymraeg dwi'n ei chlywed nawr yn y ddinas." Mae'r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys capsiynau Saesneg integredig ym mhob perfformiad.

Ysbrydolwyd cynllunIphigenia yn Sblot gan ardal Sblot

Mae'r set, y goleuo a chynllun y tafluniad yn plethu delweddau o ardal Sblot. Mae'r Cynllunydd Sain, Tic Ashfield, yn defnyddio seiniau a recordiwyd yn Sblot er mwyn creu cerddoriaeth sy'n sownd yn yr ardal leol.

Mae'r tîm creadigol yn cynnwys rhai wynebau cyfarwydd ac un wyneb newydd sbon

MaeIphigenia yn Sblot yn cyflwyno Seren Hamilton yn ei rôl broffesiynol gyntaf, ac yn cael ei chyfarwyddo gan Alice Eklund (Cyfarwyddwr Cyswllt Tales of the Brothers Grimm, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Hansel and / a Gretel). Mae gwaith Gary Owen yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd y Sherman, gyda Romeo and Julie yn llwyddiant yn 2023, ac A Christmas Carolyn dychwelyd i'r Sherman y Nadolig hwn yn dilyn perfformiadau yn 2019.

 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 90 munud Pris £16.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 10 Medi 2024
    Amser 7:30PM Prisiau £16.00 Archebwch nawr
  2. Date of the performance Dydd Mercher, 11 Medi 2024
    Amser 7:30PM Prisiau £16.00 Archebwch nawr
Poster for Floella Benjamin's Coming to England

Floella Benjamin's Coming to England

Dydd Sadwrn, 14 Medi 2024 i Dydd Sul, 15 Medi 2024 Archebwch nawr
Poster for The Wild Tenant

The Wild Tenant

Dydd Sadwrn, 14 Medi 2024 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu