 
                Sioe sy'n dathlu seren
Mae Forever Jackson, y cynhyrchiad mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n dathlu Michael Jackson, ar daith yn 2025 gyda sioe drydanol newydd sbon sy'n cynnig profiad bythgofiadwy i bobl o bob oedran. Ar ôl creu cynnwrf a gwerthu pob tocyn ar gyfer perfformiadau ledled y byd, mae Forever Jackson yn parhau i lawenhau cynulleidfaoedd drwy ail-greu athrylith brenin byd pop yn well na'r un sioe arall.
Mae Robin Parsons wrth wraidd y cynhyrchiad, gan bortreadu Michael Jackson mewn modd eithriadol sydd wedi'i fireinio i'r dim. O'i ganu perffaith i'w symudiadau hudolus, mae Robin yn cyflwyno perfformiad sy'n syfrdanu cynulleidfaoedd. Mae Robin yn adnabyddus am ei ymroddiad i'w grefft, gan fwynhau uchafbwynt ei yrfa pan gafodd ei wahodd i berfformio yn y digwyddiad a ddathlodd ben-blwydd Michael Jackson yn 45 oed yn yr Orpheum yn Los Angeles.
Gall selogion ddisgwyl clywed holl ganeuon mwyaf poblogaidd MJ, o 'Thriller' a 'Billie Jean' i 'Smooth Criminal', 'Bad', 'Beat It', a 'Black or White'. Mae Forever Jackson yn cyflwyno cerddorion o'r radd flaenaf, coreograffi syfrdanol a chynhyrchiad llwyfan gweledol nodedig, gan gynnig y deyrnged orau oll i un o'r cerddorion enwocaf oll.
Felly, byddwch yn barod i ddathlu meistr cerddoriaeth boblogaidd mewn modd gwefreiddiol a fydd yn eich sbarduno i ganu a dawnsio ymhell ar ôl diwedd y sioe.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £27.50 - £30.50Choose a date
- 
                                                    Date of the performance Dydd Iau, 26 Mawrth 2026

 
			 
			 
			

 
			 
			 
			