Byddwch yn barod am ddigwyddiad hynod arbennig... Mae Forbidden Nights yma i ddathlu dros 10 mlynedd o gyhyrau, cynnwrf a dynion heb eu crysau!
Oeddech chi'n gyffrous ar ôl gweld y perfformiad gwych ar Britain's Got Talent? Os oeddech yn awchu am ragor, dewch i wylio'r sioe lwyfan fyw lle gallwch CHI feirniadu'r perfformiad!
Ydych chi'n barod am ffantasi newydd? Dewch yn llu wrth i Forbidden Nights fynd â chi i lefel newydd, gan addo noson sydd y tu hwnt i'ch breuddwydion mwyaf gwyllt.
P'un a ydych yn chwilio am esgus i fwynhau, yn dathlu pen-blwydd neu'n cynllunio parti plu penigamp, dyma'r sioe i chi.
Yn ogystal â'ch diddanu, bydd y sioe hon hefyd yn gwneud i chi chwerthin dros bob man. Dyma'ch cyfle i greu atgofion bythgofiadwy a threfnu'r noson allan anhygoel honno rydych wedi bod yn ei hosgoi ers tro. Nid sioe arferol yw hon, felly byddwch yn barod i gymryd rhan a rhyngweithio. Gallwch ymuno yn y canu o'ch sedd neu archebu tocyn llwyfan er mwyn cael profiad gwefreiddiol go iawn. Mae pob tocyn yn cynnwys cyfle cwrdd a chyfarch am ddim a chyfle i gael llun.
Archebwch docynnau nawr i gael y seddi gorau ac i ddarganfod pam mae Forbidden Nights wedi perfformio i dros 300,000 o bobl hyd yma. Pam oedi?
Stopiwch edrych, archebwch nawr!
Rydym yn addo noson fythgofiadwy (a phen mawr y bore wedyn, efallai!)
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 120 munud Ar gyfer grŵp oedran 18+ Pris £29.50 - £32.50 Bydd nifer gyfyngedig o docynnau llwyfan ar gael i'w prynu o'r stondin nwyddau ar noson y perfformiad.Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 16 Medi 2026


