Bydd carolau Nadolig, ffefrynnau'r ŵyl a detholiad o ganeuon ysgubol yn cael eu harddangos gan sêr Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat yn y gyngerdd Nadolig hon i'r teulu.
Mae Dreamcoat Stars yn dychwelyd i oleuo'ch Nadolig! Dewch i brofi noson fwyaf y DU o lwyddiannau cerddorol ysgubol a chlasuron yr ŵyl yn y gyngerdd hon sy'n llawn sêr. Teimlwch bŵer lleisiol iasol pedwar canwr trawiadol o'r sioe gerdd sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar draws y byd, Joseph and theAmazing Technicolor Dreamcoat, wrth iddynt ddod ynghyd ar gyfer noson fythgofiadwy o theatr gerddorol a hud y Nadolig.
Bydd y perfformwyr neilltuol hyn yn siŵr o wneud i chi deimlo hwyl yr ŵyl, gyda threfniadau lleisiol rhyfeddol, harmonïau pedwar llais cyfareddol a choreograffi slic.
Dewch am dro ar sled drwy ddetholiad arbennig o glasuron poblogaidd o sioeau'r West End a Broadway, Les Misérables, The Sound of Music, Dirty Dancing, West Side Story. Yn ogystal â chaneuon a charolau Nadolig poblogaidd, gyda dawn ddisglair y West End - Silent Night, White Christmas, O' Holy Night, Have Yourself A Merry Little Christmas, a llawer mwy.
Dyma sioe a fydd yn codi'ch calon mewn noson firi cerddorol a hwyl yr ŵyl na fyddwch byth yn ei hanghofio.
Archebwch eich tocynnau'n awr!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Hyd 120 munud Pris £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2024