
Paratowch i gael eich cyfareddu gan un o'r cynyrchiadau llwyfan mwyaf unigryw a gwefreiddiol yn y byd, sef Celtic Illusion.
Bydd y ffenomen dawns a lledrith Wyddelig sydd wedi disgleirio ledled Awstralia, Seland Newydd, Hong Kong, Canada ac Unol Daleithiau America yn mynd ar daith i'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn 2026.
Gan gyfuno rhythm pwerus dawnsio Gwyddelig â lledrith anhygoel, mae Celtic Illusion yn torri tir newydd sbon. Mae'r cyffro cyfareddol hwn yn cydblethu'r traddodiadol â'r cyfoes - meddyliwch am bwls Fosse, athrylith Michael Jackson a phŵer Broadway - mewn sioe wirioneddol unigryw.
Crëwyd y sioe gan Anthony Street, y lledrithiwr uchel ei fri a chyn-arweinydd Lord of the Dance, ac mae'n cyflwyno dawnswyr o'r radd flaenaf o gynyrchiadau fel Riverdance a Lord of the Dance. Mae popeth o'r sgôr wreiddiol a'r clasuron ar eu newydd wedd dan y cyfansoddwr arobryn Angela Little wedi'i saernïo i gyfareddu.
Gyda choreograffi nodedig, lledrith anhygoel ac egni diderfyn, bydd Celtic Illusion yn tynnu dŵr o'ch dannedd - a byddwch yn ysu am fwy.
Dewch i brofi'r lledrith. Mae'r holl froliant yn wir. Cadwch le nawr.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.00 - £35.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 26 Chwefror 2026