
Celebrating Celine yw'r gyngerdd fyw orau sy'n talu teyrnged i gerddoriaeth enwog Celine Dion. Mae'r cynhyrchiad teithiol nodedig hwn wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y DU, gan gyflwyno'r angerdd, y pŵer a'r caneuon bythgofiadwy sydd wedi diffinio gyrfa eithriadol Celine.
Mae'r sioe hon yn cynnwys llais pwerus anhygoel Lisa Harter fel Celine a band byw anhygoel. Ni ddylid ei cholli! Felly, ewch ati'n ddi-oed i archebu eich tocynnau heddiw!
Gan gynnwys band byw o'r radd flaenaf - dan gyfarwyddyd cerddorol yr amryddawn Stephen 'Stretch' Price - sain a goleuadau gwefreiddiol a deunydd gweladwy gwych, mae Celebrating Celine yn mynd ar daith ymdrochol drwy ei chaneuon gorau. O faledi bytholwyrdd fel 'My Heart Will Go On' a 'Because You Loved Me' i anthemau egnïol fel 'River Deep, Mountain High', dyma ddathliad taer o un o leisiau mwyaf poblogaidd y byd.
Bydd Celebrating Celineyn noson lawen, emosiynol a bythgofiadwy i bobl sydd wedi dwlu ar ei cherddoriaeth ers blynyddoedd a'r rhai hynny sydd newydd ei darganfod. Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu wrth i ni dalu teyrnged i lais, etifeddiaeth ac athrylith Celine Dion.
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli na sioeau tebyg.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 10 Gorffenaf 2026