
Cynhyrchiad Carys Eleri wedi'i gefnogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru
Paratowch ar gyfer Tonguing, sioe newydd traws-genre sy'n archwilio cysylltiadau a chyfathrebu, wrth i Carys Eleri ddod â'i brand craff o gomedi'n fyw trwy wyddoniaeth a chaneuon.
Daw'r archwiliad difyr yma o fecaneg yr ymennydd ac ymchwil wyddonol fanwl yn fyw trwy straeon gwallgo, animeiddio hynod a ffrwydrad eclectig o ganeuon sy'n amrywio o electronica i ganeuon ffliwt canoloesol gydag ychydig bach o fetel trwm ar hyd y ffordd, mae Tonguing yn archwilio sut mae cysylltiadau dynol yn llywio popeth, o'n hymennydd i'n cyrff, a sut y gall dibyniaeth gynyddol ar y sffêr ddigidol ein hamddifadu rhag cysylltiadau dynol go iawn.
Galwad yw hi i symud y tu hwnt i'r platfformau ar lein sydd wedi ein hynysu wrth ein gilydd, a hybu'r grefft o sgwrsio, wyneb yn wyneb, gan edrych ym myw llygaid ein gilydd - 'IRL'
Gyda cyngor Dr Simon Fisher ('Beyonce niwrowyddoniaeth' yng ngeiriau Carys), a'r athro Dean Burnett (awdur The Happy Brain), mae Carys - a chreodd Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff - yn dod â Tonguing, sioe newydd sbon i gynulleidfaoedd, ac yn eu harwain ar siwrnai ddigri trwy ryfeddodau hynod a hyfryd y meddwl dynol.
Trafodwch. Tafodwch.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £17.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mawrth, 27 Mai 2025