
Paratowch i gael eich syfrdanu gan sioe deyrnged Queen enwocaf y DU - Majesty, mewn sioe newydd sbon - The Break Free Tour!
Ymunwch â Freddie, Brian, Roger a John wrth iddynt fynd â chi ar daith hudol gan berfformio The Best of Queen wrth ddathlu cerddoriaeth a dawn arddangos hoff fand roc y DU.
O ddechreuad cynnar Queen gyda Bohemian Rhapsody i'w cyngherddau yn Stadiwm Wembley lle gwerthwyd pob tocyn, cewch brofi uchafbwyntiau eu perfformiadau cerddorol anhygoel wrth i chi ail-fyw'r awyrgylch gwefreiddiol a grëwyd gan Queen dros eu gyrfa ddisglair.
Am dros 50 o flynyddoedd mae Queen wedi syfrdanu cynulleidfaoedd gyda'u cyngherddau byw penigamp, eu hanthemau enwog a'u cynyrchiadau syfrdanol ar raddfa enfawr. Gydag 18 albwm rhif 1, 18 sengl rhif 1 a bron 300 miliwn o albymau wedi'u gwerthu, does dim syndod bod Queen yn cael eu cydnabod fel band roc gorau'r byd.
Bydd sioe The Best of Queen yn eich arwain ar daith drwy un o gyngherddau Queen yn ystod anterth y band. Gyda seiniau a goleuadau eiconig ac yn cynnwys casgliad o ganeuon mwyaf poblogaidd Queen, bydd y sioe lwyfan hudol hon yn sicr o'ch syfrdanu!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 3 Hydref 2025