1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
ABBA Forever

ABBA Forever

Dydd Sadwrn, 11 Ionawr 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Cyflwynir gan Sweeney Entertainments.

Cydnabyddir bod ABBA Forever yn un o'r grwpiau gorau sy'n dynwared ABBA Yn Fyw Mewn Cyngerdd ac ers tro byd, mae cynulleidfaoedd theatr ledled y byd wedi mwynhau'r sioe deyrnged anhygoel hon sy'n dynwared y grŵp pop gorau o bosib a welodd y byd erioed.

Trobwynt sylweddol yn eu gyrfa oedd eu chweched taith theatr o Sweden, cartref yr arch grŵp gwreiddiol, ABBA, y gwerthwyd pob tocyn i'w perfformiadau.

Yn eu sioe fyw anhygoel, mae sain unigryw ABBA yn cael ei dyblygu â manylder anhygoel, gan ddefnyddio band saith aelod â gitarau trydanol ac acwstig, allweddellau a phiano, gitâr fas a drymiau. Mae dwy ferch ABBA ragorol yn cwblhau'r grŵp, gan ychwanegu'r glits a'r glam hanfodol at sioe eithriadol llawn hiwmor ysgafn.

Caiff y geiriau gwych, a ysgrifennwyd gan Benny a Björn, eu canu mewn harmoni hyfryd gan y chwe pherfformiwr ar y llwyfan. Mae coreograffi deinamig diddiwedd, delweddau syfrdanol, dawn gerddorol o'r radd flaenaf a pherfformiad cwbl fyw yn sicrhau bod sioe ABBA Forever yn swyno cynulleidfaoedd pryd bynnag y byddant yn camu i'r llwyfan.

Bydd ABBA Forever,sioe llawn cyffro, gwisgoedd disglair a goleuadau gloyw, yn mynd â chi ar daith yn ôl i'r 70au; mae'r sioe yn siŵr o blesio - o'r gytgan agoriadol i'r gytgan olaf y bydd pawb yn ei chydganu.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £34.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 11 Ionawr 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £34.00 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu