Newyddion Pantomeim!!
Joe Pasquale a Kev Johns i Berfformio yn Aladdin.

Yn dilyn llwyddiant mawr y pantomeim penigamp eleni, sef Jack and the Beanstalk, mae Theatr y Grand Abertawe ac Imagine Theatre wedi cadarnhau y gall cynulleidfaoedd Abertawe edrych ymlaen at daith ar garped hud y flwyddyn nesaf mewn cynhyrchiad arbennig o Aladdin, a fydd yn cynnwys y perfformwyr panto enwog Joe Pasquale a Kev Johns. Bydd y sioe hefyd yn arddangos set ddigidol nodedig arall ynghyd â golygfeydd animeiddiedig, sydd wedi bod yn rhan reolaidd o'r pantomeim dros y blynyddoedd diwethaf.
A fydd Aladdin yn gallu atal y dewin drwg, rheoli'r lamp hud ac ennill calon y ferch mae'n ei charu? Dewch i ddarganfod yr ateb!
Mae sioe Aladdin yn antur wych i'r teulu a bydd yn drît Nadoligaidd na fyddwch am ei golli. Archebwch yn gynnar ar gyfer y prisiau a'r argaeledd gorau.