
The Sensational 60's Experience yw'r sioe deithiol fwyaf sy'n dathlu'r 60au. Bydd ensemble anhygoel o artistiaid ac aelodau gwreiddiol o fandiau'n cyflwyno gŵyl wych a fydd yn peri i chi hel meddyliau am gerddoriaeth hudolus y degawd hwnnw.
P'un a ydych am ddod i ail-fyw trac sain eich ieuenctid neu am weld yr hyn y mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol i'r cymylau, peidiwch â cholli'r sioe hon yn 2026
GAN GYNNWYS
DOZY, BEAKY, MICK & TICH. Ym 1964, gwnaeth dyfodiad y grŵp Dave Dee, Dozy, Beaky, Mick & Tich greu cynnwrf ym myd cerddoriaeth. Erbyn 1966, roedd y band ar dân, gan dreulio 50 o 52 o wythnosau yn y siartiau. Roedd caneuon poblogaidd y grŵp, a werthodd fwy o recordiau yn yr Almaen na The Rolling Stones a The Beatles ym 1967, yn cynnwys Bend It, Zabadak a The Legend Of Xanadu a llawer mwy. Bydd set egnïol DBMT yn eich symbylu i ddawnsio a chanu yn yr eiliau.
THE TREMS (cyn-aelodau o The Tremeloes). Enw gwreiddiol y grŵp pan gafodd ei sefydlu yn Dagenham yn Essex ym 1958 oedd Brian Poole And The Tremeloes. Teithiodd The Tremeloes ledled y byd o 1963 tan 1974. Mae The Trems yn dal i fod yn gymaint o atyniad ag erioed yn Ewrop yn ogystal â'r DU. Gan berfformio caneuon poblogaidd fel Even The Bad Times Are Good, Do You Love Me, Call Me Number One a Silence is Golden, a gyrhaeddodd frig y siartiau ym mhedwar ban byd, dyma un o'r grwpiau byw gorau sy'n teithio heddiw.
THE SWINGING BLUE JEANS. Mae The Swinging Blue Jeans yn dyddio nôl i ddechrau'r 1960au. Dros y blynyddoedd, mae caneuon poblogaidd fel Hippy Hippy Shake, You're No Good, Good Golly Miss Molly a Don't Make Me Over wedi bod yn sylfaen i berfformiadau byw cofiadwy'r band. Mae Alan Lovell yn arwain The Swinging Blue Jeans, gan barhau i fod yn driw i draddodiad hir y band, sydd hefyd yn cynnwys Jeff Bannister, Graham Hollingworth a Roger Flavell.
THE FORTUNES. Daeth y band hwn sy'n hanu o Birmingham i'r amlwg am y tro cyntaf ym 1964 gyda'r gân boblogaidd Caroline, a ddefnyddiwyd fel arwydd-dôn yr orsaf radio answyddogol ddylanwadol o'r un enw. Mae clasuron eraill yn cynnwys Storm In A Teacup, You've Got Your Troubles, Freedom Come Freedom Go. Mae The Fortunes yn parhau i deithio'r byd, gan berfformio yn Awstralia, Seland Newydd ac Unol Daleithiau America, gan gynnwys cyfnod preswyl o wythnos yn Las Vegas.
VANITY FARE. Dyma fand pop/roc Prydeinig a ffurfiwyd ym 1966 (ac mae'r enw'n aml yn cael ei gamsillafu fel Vanity Fair oherwydd poblogrwydd y nofel a theitl y cylchgrawn) sy'n enwog am ganeuon sy'n cynnwys I Live For The Sun, Early In The Morning a'r gân sy'n boblogaidd ledled y byd, Hitchin a Ride, a gyrhaeddodd frig siartiau Billboard 100 yn UDA. Roedd harmonïau Vanity Fare yn adnabyddus yn y chwedegau, a dyma un o'r grwpiau lleisiol gorau sy'n teithio hyd heddiw.
SPENCER JAMES. Spencer James fu prif ganwr a gitarydd un o grwpiau enwocaf y 60au, sef "The Searchers", am 39 mlyned tan 2019. Mae Spencer a gweddill y grŵp newydd gwblhau taith olaf 11 sioe ym mis Mehefin cyn gorffen yng ngŵyl fyd-enwog Glastonbury.
Camwch yn ôl mewn amser i gyfnod pan oedd cerddoriaeth boblogaidd yn ei hanterth.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 29 Mai 2026