Cwmni Theatr Fluellen
Cwmni theatr proffesiynol clodwiw.
Mae prif waith Cwmni Theatr Fluellen yn cynnwys pedwar cynhyrchiad mawr y flwyddyn a lwyfannir yn Theatr y Grand Abertawe, ei lleoliad cartref.
Er bod y cynyrchiadau'n ymwneud yn bennaf â theatr glasurol (gan gynnwys drama Shakespeare bob blwyddyn), mae Fluellen wedi ehangu ei pherfformiadau drwy gyflwyno cynyrchiadau mawr o ddramâu newydd megis tair drama Peter Read am glwb pêl-droed Dinas Abertawe (Toshack or Me, To Hull And Back a Wemberlee Wemberlee), dramâu Francis Hardy (Taffy Shakespeare, The Late Marilyn Monroe, The Other Jolson, Jane and Hitch), addasiad o sgript Doctor and The Devils Dylan Thomas, a gomisiynwyd yn arbennig, y perfformiad cyntaf erioed o Strike For a Kingdom gan Diana Griffiths, y perfformiad proffesiynol cyntaf o Granton Street gan Philip Burton (a gafodd ei enwebu pedwar gwaith yng Ngwobrau Theatr Cymru). Mae cynlluniau i berfformio White Collar, sef y dilyniant i Granton Street, am y tro cyntaf erioed yn 2021.
Mae Fluellen hefyd yn cynhyrchu Theatr Amser Cinio fisol, mewn cydweithrediad â Theatr y Grand Abertawe, sy'n cynnwys drama fer newydd a ysgrifennwyd yn bennaf gan awduron o Gymru. Ar ôl agor yn Theatr y Grand Abertawe, mae'r cynyrchiadau'n teithio i leoliadau eraill yng Nghymru. Yn ystod dros 120 o gynyrchiadau mae'r cwmni wedi arddangos awduron megis Kate Bowman, Emily Darcy, Wendy Holborow, Alun Howell, Marc McNulty, Ron Meldon, Gary Owen, Peter Read, Kelsey Richards, Geoff Saunders, Jaye Swift, Derek Webb, Mike Witchell a Ray Williams.
Yn 2019, ymwelodd Fluellen â Gŵyl Shakespeare flynyddol Bryste am y tro cyntaf gyda'i gynhyrchiad o Henry V.
Mae Fluellen yn rhoi cyflwyniadau Ffocws ar y Theatr misol drwy gydol y flwyddyn yn Theatr y Grand Abertawe lle bydd y Cyfarwyddwr Artistig, Peter Richards, yn trafod bywyd a gwaith dramodydd enwog ac yn perfformio rhannau o'i waith.
Mae Fluellen yn cynhyrchu, mewn perthynas â Chanolfan Dylan Thomas, Abertawe Dylan, taith dywys llawn perfformiadau drwy ganol dinas Abertawe, gan ddangos mannau sy'n berthnasol i fywyd a gwaith Dylan Thomas.
Yn ogystal â'i waith theatr, mae Fluellen yn gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau i gyflwyno gweithdai sy'n seiliedig ar ei gynyrchiadau a gweithdai sy'n seiliedig ar y Theatr Roegaidd, Shakespeare a Brecht.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.fluellentheatre.co.uk.