Cyfleusterau
Rhagor o wybodaeth am archebu, cyfleusterau a mynediad.
Yma yn Theatr y Grand rydym yn ceisio sicrhau bod ein theatr yn hygyrch i bawb. Rydym yn adeilad hanesyddol ac rydym wedi gwneud newidiadau i sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus â phosib.
Cadw Lle
Mae Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 12.00pm a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ffoniwch 01792 475715. Mae'r Swyddfa Docynnau wedi symud i ochr arall yr adeilad gyferbyn â bwyty'r Malthouse wrth i waith ailddatblygu cyffrous barhau yn y cyntedd.
Minicom: 01792 654456
Parcio
Mae nifer o fannau bathodyn glas ar gael yn y maes parcio talu ac arddangos ar Singleton Street gyferbyn â'r theatr. Mae gan brif fynedfa'r theatr fan gollwng mawr.
Mynediad i gadeiriau olwyn
Mae gennym lifft yng nghyntedd ein Swyddfa Docynnau sy'n darparu mynediad i'r mannau ar gyfer cadeiriau olwyn yn ardal Seddau'r Cylch a Stiwdio'r Depot yn Adain y Celfyddydau. Mae mynediad gwastad i'r seddau arferol a bar The Malthouse ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae nifer cyfyngedig o fannau i gadeiriau olwyn. Cysylltwch â thîm ein Swyddfa Docynnau i drafod eich anghenion hygyrchedd. Ni allwn ddarparu seddau rhydd i gymdeithion. Bydd ein mannau ar gyfer cadeiriau olwyn yn darparu sedd sefydlog i gydymaith ger y gadair olwyn. Mae dau fan i gadeiriau olwyn yng nghefn yr awditoriwm lle ceir mynediad hawdd drwy goridor ein seddau arferol. Mae ein Tîm Blaen Tŷ ar gael i'ch cynorthwyo yn ystod eich ymweliad.
Mae ardal y seddau arferol yn darparu un man ar gyfer cadair olwyn sy'n agosach at flaen y llwyfan ac sy'n cynnig golwg o'r ochr. Ni allwn ganiatáu sgwteri modur yn yr ardal hon o ganlyniad i gyfyngiadau o ran maint. Pe baech yn dewis y sedd hon, rydym yn argymell ymweld mewn cadair olwyn o faint arferol (36 modfedd o uchder, 25 modfedd o led a 32 fodfedd o hyd).
Cysylltwch â thîm y Swyddfa Docynnau os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd ychwanegol/gwahanol na chânt eu trafod uchod neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo ymhellach ac mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01792 475715 neu drwy e-bostio swansea.grandreservations@abertawe.gov.uk
Seddau'r Cylch a Seddau'r Cylch Uchaf
Mae dau fan i gadeiriau olwyn ar gael yn ardal Seddau'r Cylch. Rhaid i gwsmeriaid allu gadael drwy'r grisiau neu symud i gadair achub mewn argyfwng. Rydym hefyd yn cynghori unrhyw gwsmeriaid sydd ag anghenion symudedd i ystyried seddau amgen yn ardal y seddau arferol. Mae ein mannau i gadeiriau olwyn yng nghefn yr awditoriwm ac maent yn cynnig golwg o'r canol.
Mynedfa i Seddau'r Cylch: Lled 1.4m Uchder 2m
Symud o Gadair Olwyn
Gall cwsmeriaid symud o gadair olwyn neu gymorth symudedd i sedd; fodd bynnag, rhaid storio'r offer y tu allan i'r awditoriwm mewn ardal ddynodedig o dan y grisiau. Dylai fod gan gwsmeriaid yr hyder i adael yn annibynnol mewn argyfwng. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid sydd ag anghenion hygyrchedd ddod gyda chydymaith i'w cynorthwyo drwy gydol eu hymweliad.
Seddau
Dimensiynau ein seddau yw
Lled - 0.5m
Dyfnder - 0.4m
Uchder - 0.4m
Lle i goesau - 0.4m
Os nad yw hyn yn addas i'ch anghenion, cysylltwch â thîm ein Swyddfa Docynnau. Mae gan yr awditoriwm sawl sedd heb freichiau sy'n cynnig mwy o le a mynediad haws i gwsmeriaid. Mae'r rhain ar lefelau'r seddau arferol a Seddau'r Cylch yn unig.
Stiwdio'r Depot
Mae Stiwdio'r Depot ar 3ydd llawr Adain y Celfyddydau. Gellir cyrraedd y llawr mewn lifft ac mae mynediad gwastad i'r stiwdio, ynghyd â thoiledau hygyrch. Mae mannau cyfyngedig ar gyfer cadeiriau olwyn, felly mae'n bwysig cysylltu â thîm ein Swyddfa Docynnau ynghylch eich man hygyrch.
Mynedfa Stiwdio'r Depot
Lled 1.6m Uchder 2m
Toiled Hygyrch
Lled 0.9m Uchder 2m
Toiled Hygyrch a Chyfleusterau Newid
Mae gennym doiled hygyrch ar y llawr gwaelod ger The Malthouse, un yn Adain y Celfyddydau a thoiled Changing Places gyda theclyn codi ger y Swyddfa Docynnau. Gofynnwch i aelod o'n tîm am allwedd Radar. Os oes gennych nam ar y synhwyrau, a wnewch chi ddefnyddio ein toiledau hygyrch er mwyn osgoi peiriannau sychu swnllyd.
Toiled Hygyrch The Malthouse
Lled 0.8m Uchder 2m
Toiled Hygyrch y Swyddfa Docynnau
Lled 0.9m Uchder 2m
Ein Hadeilad a Sut i Fynd o'i Gwmpas
Prif Fynedfa'r Swyddfa Docynnau
Mynedfa Hygyrch
Lled 1.6m Uchder 2.1m
Yn ein prif gyntedd, byddwch yn dod o hyd i'r caffi, y toiledau a'n Swyddfa Docynnau. Bydd ein staff cyfeillgar yn cwrdd â chi i'ch tywys drwy eich ymweliad.
Mynedfa Bar The Malthouse
Lled 1.4m Uchder 2m
Yn agor am 6pm ar ddiwrnodau perfformiad.
Caffi'r Swyddfa Docynnau - 10am-2.30pm a 5.30pm tan ar ôl yr egwyl.
Mynediad mewn Lifft
Mae lifft ein Swyddfa Docynnau'n cynnig mynediad i'r canlynol:
Llawr 1af - Seddau'r Cylch
2il Lawr - Seddau'r Cylch Uchaf
3ydd Llawr - Stiwdio'r Depot
Drysau'r Lifft
Lled 0.8m Uchder 2m
Dimensiynau Mewnol
Lled 1m Uchder 2.2m
Prif Awditoriwm
Seddau Arferol
Mae dwy fynedfa i ardal y seddau arferol.
Seddau 1 - 14: Ochr bar The Malthouse. Mae 92 o gamau rhwng y Swyddfa Docynnau a'r fynedfa hon.
Seddau 15 - 31: Mae 55 o gamau rhwng y Swyddfa Docynnau a'r fynedfa hon.
Mae toiledau'r lefel hon ar y naill ochr i'r awditoriwm, yn y Swyddfa Docynnau a'r tu allan i far The Malthouse. Mae toiled hygyrch ar y ddwy ochr.
Seddau'r Cylch
Seddau 1 - 18: Mae 132 o gamau rhwng y Swyddfa Docynnau a'r fynedfa hon, gan gynnwys un rhes o risiau.
Seddau 19 - 42:Mae 75 o gamau rhwng y Swyddfa Docynnau a'r fynedfa hon, gan gynnwys un rhes o risiau.
Mae toiledau y tu allan i'r awditoriwm, gerllaw Seddau'r Cylch. Mae'r toiled hygyrch agosaf yng nghyntedd y Swyddfa Docynnau drwy'r lifft. Mae canllaw ar ymylon yr awditoriwm, ond nid yn y blociau canol.
Seddau'r Cylch Uchaf
Seddau 1 - 18: Mae 180 o gamau o'r brif fynedfa, gan gynnwys dwy res o risiau.
Seddau 19 - 42: Mae 100 o gamau rhwng y Swyddfa Docynnau a'r fynedfa hon, gan gynnwys dwy res o risiau.
Mae toiledau y tu allan i'r awditoriwm ar y lefel hon.
Mae camau cyn cael mynediad i Seddau'r Cylch a Seddau'r Cylch Uchaf yn yr awditoriwm. Rhaid i gwsmeriaid sy'n prynu tocynnau i Seddau'r Cylch Uchaf fod yn ymwybodol bod y seddau'n hygyrch drwy lifft yn ein Swyddfa Docynnau, ond ceir mynediad i'r seddau hynny drwy risiau serth. Anogir cwsmeriaid sydd â symudedd cyfyngedig i brynu tocynnau ar gyfer y seddau arferol.
Golygon Cyfyngedig neu Olygon o'r Ochr
Ystyrir bod seddau y tu ôl i bileri a seddau sy'n rhoi golygon o ochr eithafol y llwyfan yn cynnig golygon cyfyngedig. Siaradwch â thîm ein Swyddfa Docynnau i gael rhagor o wybodaeth am olygon cyfyngedig o'r llwyfan. Gall cyfyngiadau o ran y llwyfan/cyfarpar fod yn berthnasol ar ddiwrnod y perfformiad a bydd ein tîm yn cynnig seddau amgen i sicrhau eich bod yn cael profiad pleserus heb unrhyw gyfyngiadau.
Newid Cewynnau
Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael yn nhoiled y menywod ar y llawr gwaelod (gerllaw The Malthouse) ac yn nhoiled y dynion ar lefel Seddau'r Cylch (ochr y Swyddfa Docynnau). Mae ein toiled hygyrch yn y Swyddfa Docynnau hefyd ar gael.
Mae mannau ar y llawr gwaelod lle gallwch adael cadeiriau gwthio ar waelod pob rhes o risiau, ond gwneir hynny ar eich menter eich hun.
Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob man yn yr adeilad. Os oes angen i rywun ofalu am eich ci yn ystod y perfformiad, a wnewch chi gysylltu â thîm y Swyddfa Docynnau cyn y perfformiad.
System Glyw
Mae gennym system dolen glyw isgoch Sennheiser i wella'ch profiad yn y theatr. Casglwch glustffon o'r Swyddfa Docynnau.
Perfformiadau wedi'u dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain
Rydym yn trefnu perfformiadau wedi'u dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ein cynyrchiadau theatr mwyaf poblogaidd. Gall ein Swyddfa Docynnau argymell y seddau gorau ar gyfer gweld y dehongliadau.
Ystyriol o Bobl ag Awtistiaeth
Rydym yn falch o fod yn lleoliad sy'n ystyriol o niwroamrywiaeth ac sy'n hyrwyddo profiad pleserus i bawb. Gallwn ddiwallu eich holl anghenion ac mae gennym staff wrth law i'ch helpu drwy gydol eich ymweliad. Mae toiledau hygyrch ar gael os yw ein prif doiledau'n rhy brysur a swnllyd. Gallwn fenthyca cyfarpar gwarchod clustiau ar gyfer y perfformiad. Gofynnwch i'n Tîm Blaen Tŷ. Gallwn ddarparu cymhorthion synhwyraidd neu gyfarpar gwarchod clustiau i leihau lefelau sŵn. Mae stori weledol y theatr hefyd ar gael i'ch paratoi ar gyfer eich ymweliad. Mae ardal dawel/ymlacio ar gael yn ystod pob perfformiad ar gyfer enghreifftiau o fethu rheoli ymddygiad.
Perfformiadau Hamddenol
Mae ein perfformiadau hamddenol yn cynnig cyfle i ymwelwyr ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig neu anghenion dysgu/synhwyraidd fwynhau profiad o'r theatr mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol ac anffurfiol. Mae croeso i'r gynulleidfa wneud sŵn neu grwydro o gwmpas ac rydym yn cynnig man tawel i ffwrdd o'r awditoriwm. Ar gyfer perfformiadau dethol, mae gennym wirfoddolwyr profiadol o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru sydd wedi'u hyfforddi wrth reoli ymddygiad.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer perfformiadau hamddenol ar-lein ac rydym yn cynnig polisi ad-dalu heb ofyn unrhyw gwestiynau hyd nes yr eiliad y bydd y sioe yn dechrau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fynediad, a wnewch chi e-bostio swansea.grandfrontofhouse@abertawe.gov.uk.
Disgrifiad Clywedol
Rydym yn gwneud yn siŵr bod rhai o'n sioeau gorau'n hygyrch i ymwelwyr sydd â nam ar y golwg drwy ddisgrifiadau clywedol. Mae nifer o glustffonau ar gael i'w defnyddio. Casglwch eich clustffonau o'r Swyddfa Docynnau.
Hynt
Mae hawl gan ddeiliaid cerdyn Hynt i gael tocyn ymlaen llaw am ddim ar gyfer cynorthwyydd personol neu ofalwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynllun Hynt, sy'n un cenedlaethol, drwy ffonio 0344 225 2305 neu drwy fynd i hynt.co.uk (yn agor mewn ffenestr newydd). Sylwer na ellir prynu tocynnau ar-lein drwy gerdyn Hynt. Rhaid eu prynu drwy ein Swyddfa Docynnau. Efallai y bydd cynllun Hynt wedi'i eithrio o drefniadau hurio preifat/brofiadau VIP.
Adnoddau
Mae ein llyfrynnau ar gael yn ddigidol yma, neu mewn print bras a braille ar gais.
Sylwer y defnyddir goleuadau strôb mewn rhai sioeau. Rydym yn gosod hysbysiadau ym mynedfa'r awditoriwm pan fydd hyn yn digwydd.