
Yn dilyn llwyddiant ei daith yn 2023/24, mae Neil Brand yn eich gwahodd i ddathlu canmlwyddiant Laurel a Hardy gyda sioe newydd sbon. Ym 1926, llofnododd Stan Laurel ac Oliver Hardy gontractau ar wahân gydag un o fawrion byd ffilmiau Hollywood, Hal Roach, ac ymddangosodd y ddau am y tro cyntaf gyda'i gilydd mewn ffilm o'r enw '45 Minutes from Hollywood'.Y flwyddyn ddilynol byddent yn dod yn bartneriaeth gomedi swyddogol a fyddai'n sicrhau bod y byd i gyd yn siglo chwerthin. Ni allai neb fod wedi rhagweld ar y pryd sut y byddai'r ddeuawd gomedi Eingl-Americanaidd annhebygol hon yn dod yn enwogion byd-eang mewn dros 130 o wledydd o gwmpas y byd.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi a dathlu'r 100 mlynedd hynny gyda'r cynhyrchiad newydd sbon o Daith Canmlwyddiant 2026 'Evening with Laurel & Hardy' Neil Brand. Mae Neil wedi sefydlu ei hun fel prif esboniwr ffilmiau mud a chyfeiliant piano byrfyfyr.
Gan fod eu ffilmiau mud wedi'i hadfer o'r newydd, ac yn sgîl ailddarganfod rhai o'u comedïau llai adnabyddus, bydd Neil yn datgelu'r perlau doniol gan y ddeuawd nad yw eu comedi byth yn dyddio, ac yn rhoi bywyd newydd iddynt gyda'r darnau byrfyfyr byw heriol ar y piano y mae yntau'n enwog amdanynt. Gyda golygfeydd estynedig o'r goreuon o'u comedïau mud, yn enwedig 'You're Darn Tootin', 'The Finishing Touch' a 'The Second Hundred Years'.
Mae cyngherddau Neil yn boblogaidd iawn oherwydd ei gyswllt personol â'r gynulleidfa a'i wybodaeth unigryw am Laurel and Hardy a genedigaeth y diwydiant sinema. Mae ei arddull ddidaro afaelgar, ynghyd â'i sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y sioe lle'r atebir yr holl gwestiynau gan y gynulleidfa, ac yna'i sesiwn cwrdd a chyfarch ar ôl y sioe, yn golygu bod hon yn noson hynod ddifyr.
Mae Neil sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar raglen ddogfen ar gyfer y teledu a llyfr newydd am 'The Boys', unwaith eto'n edrych ymlaen at rannu ei wybodaeth a'i arbenigedd â chynulleidfaoedd ar draws y wlad, a dathlu bywyd ac amserau mawrion y byd comedi, Stan Laurel ac Oliver Hardy.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £25.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 14 Mawrth 2026