Mae The Chicago Blues Brothers, sydd wedi perfformio yn Theatr Adelphi a Theatr y Savoy yn y West End yn Llundain, wedi rhoi'r band yn ôl at ei gilydd i gyflwyno'u taith llawn caneuon poblogaidd - RESPECT.
Rydym wedi cyfuno'r trefniannau gorau o'n 5 taith ddiwethaf i gyflwyno'n rhestr berfformio orau erioed, sy'n gyfuniad o ffefrynnau'r gynulleidfa a chaneuon gorau The Back in Black Tour, The Motown Mission Tour, A Night at the Movies Tour a The Crusin for a Bluesin Tour.
Mae'r sioe arobryn hon yn cael ei chefnogi gan un o'r bandiau byw gorau yn y busnes, y cantorion enaid annwyl ac wrth gwrs, Jake ac Elwood digyffelyb yn y perfformiad cerddorol hwn llawn canu a dawnsio sy'n cynnwys holl ganeuon enwog The Blues Brothers a chaneuon gorau ein teithiau.
Mae sioe Blues Brothers fwyaf poblogaidd y byd ar daith unwaith eto, ond nid sioe yn unig yw hon - rydym yn cael parti, ac mae gwahoddiad i bawb! Ymunwch â ni am noson llawn cerddoriaeth wych, dawnsio a naws heintus y Blues Brothers.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £29.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2024