Dathlu 50 mlynedd o gerddoriaeth ABBA.
Ym 1974 enillodd ABBA'r Eurovision Song Contest gyda 'Waterloo', a gallwch ddawnsio, canu a dathlu eu cerddoriaeth o hyd.
Mae band teyrnged ABBA pennaf Ewrop, ABBAMANIA, yn parhau i ddifyrru cynulleidfaoedd gyda'u lleisiau a'u perfformiad cerddorol byw eithriadol ar y llwyfan.
Mae teyrnged glodwiw ABBAMANIA i ABBA yn cynnwys sioe ddwy awr syfrdanol llawn caneuon enwog a diamser fel 'Waterloo', 'Dancing Queen', 'Mamma Mia', 'Fernando' a 'Chiquitita', y bydd pob un ohonynt yn gwneud i chi eisiau dawnsio yn yr eiliau.
Felly dewch o hyd i'ch esgidiau platfform, gwisgwch eich fflêrs a mwynhewch noson fythgofiadwy gydag ABBAMANIA!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £30.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sul, 13 Hydref 2024